Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 29:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Pan mae person doeth yn mynd â ffŵl i gyfraith,bydd digon o arthio a gwawdio, ond dim heddwch!

10. Mae llofruddion yn casáu pobl onest,ond mae'r rhai cyfiawn yn eu hamddiffyn nhw.

11. Mae'r ffŵl yn colli ei limpyn yn lân,ond mae'r doeth yn rheoli ei dymer.

12. Pan mae llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,mae ei swyddogion i gyd yn ddrwg.

13. Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd:yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi bywyd i'r ddau.

14. Os ydy brenin yn trin pobl dlawd yn degbydd ei orsedd yn ddiogel bob amser.

15. Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth,ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam.

16. Pan mae pobl ddrwg mewn grym, mae mwy o droseddu,ond bydd y cyfiawn yn gweld eu cwymp.

17. Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl;a bydd bywyd yn bleserus i ti.

18. Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi eu bendithio'n fawr.

19. Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas;falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 29