Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 29:14-27 beibl.net 2015 (BNET)

14. Os ydy brenin yn trin pobl dlawd yn degbydd ei orsedd yn ddiogel bob amser.

15. Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth,ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam.

16. Pan mae pobl ddrwg mewn grym, mae mwy o droseddu,ond bydd y cyfiawn yn gweld eu cwymp.

17. Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl;a bydd bywyd yn bleserus i ti.

18. Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi eu bendithio'n fawr.

19. Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas;falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando.

20. Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n rhy barod ei dafod.

21. Pan mae caethwas wedi ei sbwylio ers yn blentyn,fydd dim ond trafferthion yn y diwedd.

22. Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn creu helynt,a'r un sy'n gwylltio'n hawdd yn troseddu'n aml.

23. Mae balchder yn arwain i gywilydd,ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu.

24. Mae rhywun sy'n helpu lleidr yn elyn iddo'i hun;mae'n cael ei alw i dystio, ond yn dweud dim.

25. Mae bod ag ofn pobl yn drap peryglus,ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn saff.

26. Mae llawer yn ceisio ennill ffafr llywodraethwr,ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i bobl.

27. Mae pobl dda yn casáu'r rhai sy'n gwneud drwg,ac mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn casáu'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 29