Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 29:11-21 beibl.net 2015 (BNET)

11. Mae'r ffŵl yn colli ei limpyn yn lân,ond mae'r doeth yn rheoli ei dymer.

12. Pan mae llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,mae ei swyddogion i gyd yn ddrwg.

13. Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd:yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi bywyd i'r ddau.

14. Os ydy brenin yn trin pobl dlawd yn degbydd ei orsedd yn ddiogel bob amser.

15. Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth,ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam.

16. Pan mae pobl ddrwg mewn grym, mae mwy o droseddu,ond bydd y cyfiawn yn gweld eu cwymp.

17. Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl;a bydd bywyd yn bleserus i ti.

18. Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi eu bendithio'n fawr.

19. Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas;falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando.

20. Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n rhy barod ei dafod.

21. Pan mae caethwas wedi ei sbwylio ers yn blentyn,fydd dim ond trafferthion yn y diwedd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 29