Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 28:19-28 beibl.net 2015 (BNET)

19. Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond yr un sy'n gwastraffu amser yn cael dim ond tlodi.

20. Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio'n fawr,ond yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi.

21. Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da;ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara!

22. Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn,heb sylweddoli mai colled sy'n dod iddo.

23. Mae'r un sy'n barod i roi gair o geryddyn cael mwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n seboni.

24. Mae'r un sy'n dwyn oddi ar ei dad a'i fam,ac yna'n dweud, “wnes i ddim byd o'i le,”yn ffrind i lofrudd.

25. Mae person hunanol yn creu helynt,ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyddo.

26. Mae trystio'r hunan yn beth twp i'w wneud,ond mae'r sawl sy'n ymddwyn yn gall yn saff.

27. Fydd dim angen ar y sawl sy'n rhoi i'r tlodion,ond mae'r un sy'n cau ei lygaid i'r angen yn cael ei felltithio go iawn.

28. Pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio,ond pan maen nhw'n syrthio, bydd y rhai cyfiawn yn llwyddo.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 28