Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 28:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. Mae'r un sy'n dangos gofal wedi ei fendithio'n fawr,ond mae person penstiff yn syrthio i bob math o drafferthion.

15. Mae llywodraethwr drwg dros bobl dlawdfel llew yn rhuo neu arth yn prowla.

16. Arweinydd heb sens sy'n gormesu o hyd;yr un sy'n gwrthod elwa ar draul eraill sy'n cael byw'n hir.

17. Bydd yr un sy'n euog o lofruddioyn ffoi hyd ei fedd – ddylai neb ei helpu.

18. Bydd yr un sy'n byw'n onest yn saff,ond bydd person dauwynebog yn siŵr o syrthio.

19. Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond yr un sy'n gwastraffu amser yn cael dim ond tlodi.

20. Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio'n fawr,ond yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi.

21. Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da;ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara!

22. Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn,heb sylweddoli mai colled sy'n dod iddo.

23. Mae'r un sy'n barod i roi gair o geryddyn cael mwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n seboni.

24. Mae'r un sy'n dwyn oddi ar ei dad a'i fam,ac yna'n dweud, “wnes i ddim byd o'i le,”yn ffrind i lofrudd.

25. Mae person hunanol yn creu helynt,ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyddo.

26. Mae trystio'r hunan yn beth twp i'w wneud,ond mae'r sawl sy'n ymddwyn yn gall yn saff.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 28