Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 28:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae pobl ddrwg yn ffoi pan does neb ar eu holau,ond mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn hyderus fel llew ifanc.

2. Pan mae gwlad mewn anhrefn mae pawb eisiau arwain,ond mae'n cymryd arweinydd doeth a deallus i'w gwneud hi'n sefydlog.

3. Mae person tlawd sy'n gormesu pobl eraill sydd mewn angenfel storm o law trwm sy'n dinistrio cnydau.

4. Mae'r rhai sy'n gwrthod Cyfraith Dduw yn canmol pobl ddrwg,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith yn eu gwrthwynebu nhw.

5. Dydy pobl ddrwg ddim yn gwybod beth ydy cyfiawnder,ond mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei ddeall i'r dim.

6. Mae'n well bod yn dlawd ac yn onestnac yn gyfoethog ac yn ddauwynebog.

7. Mae plentyn doeth yn gwrando ar beth sy'n cael ei ddysgu iddoond mae'r un sy'n cymysgu gyda criw da i ddim yn codi cywilydd ar ei dad.

8. Mae yna un sy'n gwneud arian drwy godi llogau uchel,ond bydd ei gyfoeth yn mynd i rywun sy'n garedig at y tlawd.

9. Mae'n gas gan Dduw wrando ar weddirhywun sy'n gwrthod gwrando ar y Gyfraith.

10. Bydd rhywun sy'n camarwain pobl dda, a'u cael nhw i wneud drwgyn syrthio i mewn i'w drap ei hun,ond bydd pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n onest.

11. Mae person cyfoethog yn meddwl ei fod e'n glyfar,ond mae'r person tlawd sy'n gall yn gweld trwyddo.

12. Pan mae pobl dda yn ennill, mae dathlu mawr,ond pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio.

13. Fydd y sawl sy'n cuddio'i feiau ddim yn llwyddo;yr un sy'n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy'n cael trugaredd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 28