Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 27:10-23 beibl.net 2015 (BNET)

10. Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu,a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion.Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell.

11. Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus,er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort ar fy mhen.

12. Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi;ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.

13. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall;cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol.

14. Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y boreyn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall.

15. Mae gwraig gecrus yr un fath âdiwrnod pan mae hi'n glawio'n ddi-stop;

16. mae rhoi taw arni fel ceisio stopio'r gwynt rhag chwythu,neu ddal olew yn y llaw.

17. Fel haearn yn hogi haearnmae un person yn hogi meddwl rhywun arall.

18. Yr un sy'n gofalu am y goeden ffigys sy'n bwyta ei ffrwyth,a bydd y gwas sy'n gofalu am ei feistr yn cael ei anrhydeddu.

19. Fel adlewyrchiad o'r wyneb mewn dŵr,mae'r bersonoliaeth yn adlewyrchu beth sy'n y galon.

20. Dydy Annwn ac Abadon byth yn cael digon,a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith.

21. Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,a chanmoliaeth i brofi sut un ydy person.

22. Gelli falu'r ffŵl fel ŷd gyda pestl mewn mortarond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael.

23. Edrych ar ôl dy ddefaid yn iawn,a gofala am y geifr;

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 27