Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 27:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Paid brolio am beth wnei di yfory,ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod.

2. Gad i rywun arall dy ganmol di,paid ti â brolio dy hun.

3. Mae carreg yn drom, ac mae pwysau i dywod,ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau.

4. Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu,ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau.

5. Mae cerydd gonestyn well na peidio dangos cariad.

6. Mae'n well cael eich brifo gan ffrind,na chael eich cusanu'n ddi-baid gan rywun sy'n eich casáu.

7. Mae rhywun sydd wedi cael digon i'w fwyta yn gwrthod mêl,ond i'r sawl sy'n llwgu, mae'r peth mwyaf chwerw yn blasu'n felys.

8. Mae rhywun sydd wedi gadael ei gartrefel aderyn wedi gadael ei nyth.

9. Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus,mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.

10. Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu,a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion.Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell.

11. Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus,er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort ar fy mhen.

12. Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi;ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.

13. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall;cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol.

14. Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y boreyn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 27