Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 26:24-28 beibl.net 2015 (BNET)

24. Mae gelyn yn smalio,ond ei fwriad ydy twyllo;

25. paid â'i gredu pan mae'n dweud pethau caredig,achos mae pob math o bethau ffiaidd ar ei feddwl.

26. Mae'n cuddio ei gasineb trwy dwyll,ond bydd ei ddrygioni yn dod yn amlwg i bawb.

27. Mae rhywun yn gallu cloddio twll a syrthio i'w drap ei hun;pan mae rhywun yn rholio carreg, gall rolio yn ôl drosto!

28. Mae tafod celwyddog yn casáu y rhai mae'n eu brifo;ac mae seboni yn arwain i ddinistr.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 26