Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 26:12-18-19 beibl.net 2015 (BNET)

12. Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth.

13. Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd!Mae e'n rhydd yn y stryd!”

14. Mae diogyn yn troi ar ei welyfel drws yn siglo'n ôl a blaen ar ei golfachau!

15. Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd,ond yn blino gorfod ei godi i'w geg.

16. Mae'r diogyn yn meddwl ei fod e'n gallachna saith o bobl sy'n rhoi cyngor da.

17. Mae busnesa yn ffrae rhywun arallfel gafael mewn ci peryglus wrth ei glustiau.

18-19. Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,”fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 26