Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 26:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Fel eira yn yr haf a glaw adeg cynhaeaf,dydy anrhydedd ddim yn siwtio ffŵl.

2. Fel aderyn y to yn gwibio heibio, neu wennol yn hedfan,dydy melltith heb ei haeddu ddim yn gorffwys.

3. Chwip i geffyl a ffrwyn i asyn,a gwialen i gefn ffyliaid.

4. Paid ateb ffŵl fel mae e'n siarad,neu byddi di'n debyg iddo;

5. ateb ffŵl fel mae e'n siarad,a bydd e'n meddwl ei fod e'n glyfar.

6. Mae anfon neges drwy law ffŵlfel rhywun yn mwynhau gwneud niwed iddo'i hun.

7. Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵlfel coesau rhywun cloff yn hongian yn llipa.

8. Mae rhoi anrhydedd i ffŵlmor wyrion â rhwymo carreg mewn ffon dafl.

9. Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl,fel llwyn o fieri yn llaw meddwyn.

10. Mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwynfel bwasaethwr yn anafu pawb sy'n mynd heibio.

11. Mae ffŵl sy'n ailadrodd beth wnaeth e,fel ci yn mynd yn ôl at ei chwŷd.

12. Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth.

13. Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd!Mae e'n rhydd yn y stryd!”

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 26