Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 22:8-23 beibl.net 2015 (BNET)

8. Bydd y rhai sy'n hau drygioni yn medi helyntion,a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri.

9. Bydd person hael yn cael ei fendithioam rannu ei fwyd gyda'r tlawd.

10. Taflwch allan yr un sy'n creu helynt, a bydd y cweryla'n peidio,bydd y ffraeo a'r sarhau yn stopio.

11. Pwy bynnag sy'n ddidwyll a'i eiriau'n garedig,bydd yn ffrindiau gyda'r brenin.

12. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am yr un sy'n gwybod y gwir;ond mae'n tanseilio beth mae'r twyllwr yn ei ddweud.

13. Mae'r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna!Mae'n beryg bywyd i fynd allan i'r stryd.”

14. Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn;mae'r rhai sy'n digio'r ARGLWYDD yn syrthio iddo.

15. Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc,bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e.

16. Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd,neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled!

17. Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi ei ddweud;a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti.

18. Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot tiac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser.

19. Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw – ie, ti –er mwyn i ti drystio'r ARGLWYDD.

20. Dw i wedi eu hysgrifennu nhw i lawr –“Y Tri Deg Cyngor Doeth”,

21. i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn,a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di.

22. Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd;na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys.

23. Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw,ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 22