Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 22:16-28 beibl.net 2015 (BNET)

16. Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd,neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled!

17. Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi ei ddweud;a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti.

18. Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot tiac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser.

19. Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw – ie, ti –er mwyn i ti drystio'r ARGLWYDD.

20. Dw i wedi eu hysgrifennu nhw i lawr –“Y Tri Deg Cyngor Doeth”,

21. i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn,a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di.

22. Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd;na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys.

23. Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw,ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw.

24. Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis,na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt,

25. rhag i ti hefyd droi felly,a methu dianc.

26. Paid bod yn rhy barod i gytunoi dalu dyledion rhywun arall;

27. Os na fyddi di'n gallu talubyddi'n colli popeth, hyd yn oed dy wely!

28. Paid symud yr hen ffiniaugafodd eu gosod gan dy hynafiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 22