1. Mae enw da yn well na chyfoeth mawr,a charedigrwydd yn well nag arian ac aur.
2. Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd:yr ARGLWYDD wnaeth greu y ddau ohonyn nhw.
3. Mae'r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi;ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
4. Mae gostyngeiddrwydd a parch at yr ARGLWYDDyn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd.
5. Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy'n twyllo;ond mae'r person sy'n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw.
6. Dysga blentyn y ffordd orau i fyw;a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e'n hŷn.
7. Fel mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,mae'r un sydd mewn dyled yn gaethwas i'r benthyciwr.