Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 20:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd;cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta.

14. Mae'r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,”ond yna'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen.

15. Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd;mae geiriau doeth fel gem werthfawr.

16. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun;cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr.

17. Falle fod bwyd sydd wedi ei ddwyn yn flasus,ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd.

18. Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo;ewch i ryfel gyda strategaeth glir.

19. Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach;paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod.

20. Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam,bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 20