Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 20:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae gwin yn gwawdio, a cwrw yn creu helynt;dydy'r rhai sy'n meddwi ddim yn ddoeth.

2. Mae brenin sy'n bygwth fel llew yn rhuo;mae'r sawl sy'n ei wylltio yn mentro'i fywyd.

3. Mae gwrthod ffraeo yn beth call i'w wneud,gall unrhyw ffŵl godi helynt.

4. Os nad ydy'r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn,pan ddaw'r cynhaeaf, fydd e'n cael dim byd.

5. Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn,ond gall person deallus ei ddwyn i'r golwg.

6. Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw,ond pwy allwch chi ei drystio go iawn?

7. Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest,mae ei blant wedi eu bendithio'n fawr.

8. Mae brenin sy'n eistedd ar yr orsedd i farnuyn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da.

9. Oes unrhyw un yn gallu dweud,“Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân;dw i'n hollol lân a heb bechod”?

10. Mae twyllo wrth bwyso a mesuryn rhywbeth sy'n gas gan yr ARGLWYDD.

11. Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwynyn dangos ydy e'n gymeriad glân a gonest ai peidio.

12. Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld –yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 20