15. Mae'r person call am ddysgu mwy;ac mae'r doeth yn chwilio am wybodaeth.
16. Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysaui gyfarfod pobl bwysig.
17. Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawnnes i rywun ddod a'i groesholi.
18. Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo,ac yn setlo dadl ffyrnig.
19. Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer;a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.
20. Rhaid i rywun ddysgu byw gyda'i eiriau;mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad.
21. Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth;ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau.
22. Mae'r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus;mae'r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato.
23. Mae'r person tlawd yn pledio am help;ond mae'r cyfoethog yn ei ateb yn swta.
24. Mae rhai ffrindiau yn gallu brifo rhywun,ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.