Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 18:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'r un sy'n cadw ar wahân yn plesio ei hun,ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.

2. Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,dim ond lleisio'i farn ei hun.

3. Mae dirmyg yn dilyn y drwg,a gwawdio yn dilyn gwarth.

4. Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn;ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo.

5. Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da,na gwrthod cyfiawnder i'r dieuog.

6. Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae;mae'n gofyn am drwbwl!

7. Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr;mae'n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun.

8. Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –mae'r cwbl yn cael ei lyncu.

9. Mae'r un sy'n ddiog yn ei waithyn perthyn yn agos i'r fandal.

10. Mae enw'r ARGLWYDD fel tŵr solet;mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.

11. Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth;mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn.

12. Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio;gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd.

13. Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arnoyn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 18