Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 16:6-22 beibl.net 2015 (BNET)

6. Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill,a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg.

7. Pan mae ymddygiad rhywun yn plesio'r ARGLWYDD,mae hyd yn oed ei elynion yn troi'n ffrindiau.

8. Mae'n well cael ychydig a byw'n iawn,na chael cyfoeth mawr drwy fod yn anonest.

9. Mae pobl yn gallu cynllunio beth i'w wneud,ond yr ARGLWYDD sy'n arwain y ffordd.

10. Y brenin sy'n dweud beth ydy beth;dydy e byth yn barnu'n annheg.

11. Mae'r ARGLWYDD eisiau clorian teg;rhaid i bob un o'r pwysau sy'n y gôd fod yn gywir.

12. Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith,am mai cyfiawnder sy'n gwneud gorsedd yn ddiogel.

13. Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd;maen nhw'n hoffi pobl onest.

14. Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaethond bydd person doeth yn gallu ei dawelu.

15. Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd;mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.

16. Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur;a chael deall yn well nag arian.

17. Mae ffordd glir o flaen yr un sy'n osgoi drygioni;ac mae'r person sy'n gwylio ble mae'n mynd yn saff.

18. Mae balchder yn dod o flaen dinistr,a brolio cyn baglu.

19. Mae'n well bod yn ostyngedig gyda'r anghenusna rhannu ysbail gyda'r balch.

20. Mae'r un sy'n gwrando ar neges Duw yn llwyddo;a'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn hapus.

21. Mae'r person doeth yn cael ei gyfri'n gall;ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu.

22. Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy'n rhoi bywyd i rywun,ond mae ffyliaid yn talu'r pris am eu ffolineb.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 16