Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 15:20-33 beibl.net 2015 (BNET)

20. Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus;ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam.

21. Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens;ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn.

22. Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori,ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.

23. Mae ateb parod yn gwneud rhywun yn hapus,ac mor dda ydy gair yn ei bryd!

24. Mae llwybr bywyd ar i fyny i'r doeth,ac yn ei droi oddi wrth Annwn isod.

25. Bydd yr ARGLWYDD yn chwalu tŷ y balch,ond mae'n gwneud eiddo'r weddw yn ddiogel.

26. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD feddyliau drwg,ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg.

27. Mae rhywun sy'n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i'w deulu;ond bydd yr un sy'n gwrthod breib yn cael byw.

28. Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb,tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid.

29. Mae'r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg,ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir.

30. Mae gwên yn llonni'r galon;a newyddion da yn rhoi cryfder i'r corff.

31. Mae'r glust sy'n gwrando ar gerydd buddiolyn byw yng nghwmni'r doeth.

32. Mae'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun;ond yr un sy'n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr.

33. Mae parchu'r ARGLWYDD yn dysgu rhywun i fod yn ddoeth;a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 15