Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 15:1-17 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae ateb caredig yn tawelu tymer;ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.

2. Mae geiriau person doeth yn hybu gwybodaeth,ond mae cegau ffyliaid yn chwydu ffolineb.

3. Mae'r ARGLWYDD yn gweld popeth,mae'n gwylio'r drwg a'r da.

4. Mae gair caredig fel coeden sy'n rhoi bywyd,ond mae dweud celwydd yn torri calon.

5. Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad,ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall.

6. Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn,ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg.

7. Mae pobl ddoeth yn rhannu gwybodaeth;ond dydy ffyliaid ddim yn gwneud hynny.

8. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD offrymau pobl ddrwg,ond mae gweddi'r rhai sy'n byw yn iawn yn ei blesio.

9. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD ymddygiad pobl ddrwg,ond mae'n caru'r rhai sy'n trïo byw'n iawn.

10. Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym;bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw.

11. Mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwn,felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddyliau pobl!

12. Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro;dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth.

13. Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb;ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd.

14. Mae person call eisiau dysgu mwy;ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb.

15. Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled,ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.

16. Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r ARGLWYDDyn well na chyfoeth mawr gyda helbulon.

17. Mae platiaid o lysiau ble mae cariadyn well na gwledd o gig eidion â chasineb.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 15