Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:4-9 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae'r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim;ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau.

5. Mae'r person cyfiawn yn casáu celwydd;ond y person drwg yn dwyn cywilydd a gwarth arno'i hun.

6. Mae cyfiawnder yn amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn;Ond mae'r pechadur yn cael ei faglu gan ei ddrygioni.

7. Mae un heb ddim yn cymryd arno ei fod yn gyfoethog,ac un arall yn gyfoethog yn cymryd arno ei fod yn dlawd.

8. Gall y cyfoethog gael ei fygwth am ei gyfoeth,ond dydy'r person tlawd ddim yn cael y broblem yna.

9. Mae golau'r cyfiawn yn disgleirio'n llachar;ond mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13