Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:16-24 beibl.net 2015 (BNET)

16. Mae pawb call yn gwneud beth sy'n ddoeth,ond mae'r ffŵl yn dangos ei dwpdra.

17. Mae negesydd gwael yn achosi dinistr;ond mae negesydd ffyddlon yn dod â iachâd.

18. Tlodi a chywilydd fydd i'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro;ond bydd y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn cael ei ganmol.

19. Mae dymuniad wedi ei gyflawni yn beth melys;ond mae'n gas gan ffyliaid droi cefn ar ddrwg.

20. Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi'n ddoeth,ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.

21. Mae helyntion yn dilyn pechaduriaid,ond bydd bywyd yn dda i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn.

22. Mae person da yn gadael etifeddiaeth i'w wyrion a'i wyresau,ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn.

23. Mae digon o fwyd yn tyfu ar dir pobl dlawd;ond mae anghyfiawnder yn ei ysgubo i ffwrdd.

24. Mae'r sawl sy'n atal y wialen yn casáu ei blentyn;mae'r un sy'n ei garu yn ei ddisgyblu o'r dechrau cyntaf.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13