Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 12:5-19 beibl.net 2015 (BNET)

5. Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda,ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus.

6. Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd,ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw.

7. Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu,ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn.

8. Mae person deallus yn cael enw da;ond mae'r rhai sy'n twyllo yn cael eu dirmygu.

9. Mae'n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hunna chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd.

10. Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid,ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon!

11. Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser.

12. Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni;ond gwreiddiau y cyfiawn sy'n rhoi cnwd.

13. Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw,ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn dianc rhag trafferthion.

14. Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud;ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud.

15. Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau;ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor.

16. Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio,ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi ei sarhau.

17. Mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond tyst celwyddog yn twyllo.

18. Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu,ond mae geiriau doeth yn iacháu.

19. Mae geiriau gwir yn aros bob amser,ond celwydd yn para ond am ennyd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 12