Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 12:16-28 beibl.net 2015 (BNET)

16. Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio,ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi ei sarhau.

17. Mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond tyst celwyddog yn twyllo.

18. Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu,ond mae geiriau doeth yn iacháu.

19. Mae geiriau gwir yn aros bob amser,ond celwydd yn para ond am ennyd.

20. Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwyn i wneud drwg;ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd.

21. Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael dim niwed,ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion.

22. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd,ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio.

23. Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod,ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens.

24. Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr;bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision.

25. Mae pryder yn gallu llethu rhywun,ond mae gair caredig yn codi calon.

26. Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind,ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn.

27. Does gan rywun diog byth helfa i'w rostio,ond mae gan y gweithiwr caled gyfoeth gwerthfawr.

28. Mae byw yn iawn yn arwain i fywyd,ond ffordd arall yn arwain i farwolaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 12