Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 11:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD glorian dwyllodrus;ond mae defnyddio pwysau cywir wrth ei fodd.

2. Mae snobyddiaeth yn arwain at gywilydd,pobl wylaidd ydy'r rhai doeth.

3. Mae gonestrwydd yn arwain y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn;ond mae twyll yn dinistrio'r rhai sy'n twyllo.

4. Fydd cyfoeth yn dda i ddim ar ddydd y farn,ond mae byw yn iawn yn achub bywyd.

5. Mae cyfiawnder rhywun gonest yn dangos y ffordd iawn iddo,ond mae'r un sy'n gwneud drwg yn syrthio o achos ei ddrygioni.

6. Mae cyfiawnder rhywun gonest yn ei achubond mae'r un sy'n twyllo yn cael ei ddal gan ei driciau.

7. Pan mae rhywun drwg yn marw, dyna ni – does dim gobaithdydy'r cyfoeth oedd ganddo yn dda i ddim bellach.

8. Mae'r cyfiawn yn cael ei achub rhag helyntion,a'r un sy'n gwneud drwg yn gorfod cymryd ei le!

9. Mae'r annuwiol yn dinistrio pobl gyda'i eiriau,ond mae'r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed.

10. Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd;mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio.

11. Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio,ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi.

12. Does dim sens gan rywun sy'n bychanu pobl eraill;mae'r person call yn cadw'n dawel.

13. Mae'r un sy'n hel clecs yn bradychu cyfrinach,ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 11