Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 10:18-27 beibl.net 2015 (BNET)

18. Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo,a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl.

19. Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun;mae'r person call yn brathu ei dafod.

20. Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr,ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim.

21. Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl,ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin.

22. Bendith yr ARGLWYDD sy'n cyfoethogi bywyd,dydy ymdrech dynol yn ychwanegu dim ato.

23. Mae ffŵl yn cael sbort wrth wneud drygau,ond doethineb sy'n rhoi mwynhad i bobl gall.

24. Bydd yr hyn mae pobl ddrwg yn ei ofni yn digwydd iddyn nhw;ond bydd rhai sy'n byw'n iawn yn cael beth maen nhw eisiau.

25. Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio,Ond mae sylfeini'r rhai sy'n byw'n iawn yn aros yn gadarn.

26. Mae anfon rhywun diog ar neges,fel yfed finegr, neu gael mwg yn eich llygaid.

27. Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi,ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 10