Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 1:20-31 beibl.net 2015 (BNET)

20. Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd,ac yn codi ei llais ar y sgwâr.

21. Mae'n sefyll ar gorneli'r strydoedd prysur ac yn galw allan;ac yn dweud ei dweud wrth giatiau'r ddinas:

22. “Ydych chi bobl wirion yn mwynhau anwybodaeth?Ydych chi sy'n gwawdio am ddal ati?A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu?

23. Peidiwch diystyru beth dw i'n ddweud!Dw i'n mynd i dywallt fy nghalon,a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi.

24. Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o'n i'n galw,ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi.

25. Roeddech chi'n diystyru'r cyngor oedd gen iac yn gwrthod gwrando arna i'n ceryddu.

26. Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion;fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi'n panicio!

27. Bydd dychryn yn dod arnoch chi fel storm,a thrychineb yn eich taro chi fel corwynt!Byddwch mewn helbul ac mewn argyfwng go iawn.

28. Byddwch chi'n galw arna i bryd hynny,ond fydda i ddim yn ateb;byddwch chi'n chwilio'n daer amdana i,ond yn methu dod o hyd i mi.

29. Roeddech chi wedi gwrthod dysgu,ac wedi dangos dim parch at yr ARGLWYDD.

30. Gwrthod y cyngor rois i,a cymryd dim sylw pan oeddwn i'n dweud y drefn.

31. Felly bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau eich ffyrdd,a byddwch wedi cael llond bol ar eich cynlluniau.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 1