Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 1:2-14 beibl.net 2015 (BNET)

2. I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn;ac i ti ddeall beth sy'n gyngor call.

3. I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog,yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg.

4. I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall,a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc.

5. (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy;a'r rhai sy'n gall yn derbyn arweiniad.)

6. Hefyd i ti ddeall dihareb a gallu dehonglidywediadau doeth a phosau.

7. Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf at wybodaeth;does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn.

8. Fy mab, gwrando ar beth mae dy dad yn ei ddweud;a paid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti.

9. Bydd beth ddysgon nhw i ti fel torch hyfryd ar dy ben,neu gadwyni hardd am dy wddf.

10. Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di,paid mynd gyda nhw.

11. Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni!Gad i ni guddio i ymosod ar rywun;mygio rhywun diniwed am ddim rheswm!

12. Gad i ni eu llyncu nhw'n fyw, fel y bedd;a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron marw.

13. Cawn ni pob math o bethau gwerthfawr;a llenwi ein tai gyda phethau wedi eu dwyn.

14. Tyrd gyda ni! Bydd yn fentrus! –byddwn yn rhannu popeth gawn ni.”

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 1