Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 9:10-22 beibl.net 2015 (BNET)

10. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw. Y Deg Gorchymyn roedd e wedi eu rhoi i chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd.

11. “Ar ddiwedd y cyfnod o bedwar deg diwrnod dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, llechi'r ymrwymiad.

12. Yna dwedodd, ‘Dos yn ôl i lawr ar unwaith, mae'r bobl wnest ti eu harwain allan o'r Aifft wedi pechu! Maen nhw wedi troi cefn ar y ffordd wnes i ei rhoi iddyn nhw'n barod, ac wedi gwneud delw o fetel tawdd.’

13. “Yna dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi bod yn gwylio'r bobl yma – maen nhw'n griw penstiff!

14. Gad lonydd i mi, i mi gael gwared â nhw'n llwyr! Fydd neb yn cofio pwy oedden nhw! A bydda i'n dy wneud di yn genedl gryfach a mwy na nhw.’

15. “Felly dyma fi'n mynd yn ôl i lawr y mynydd tra roedd yn llosgi'n dân, gyda'r ddwy lechen yn fy nwylo.

16. A dyma fi'n gweld eich bod chi wedi pechu go iawn yn erbyn yr ARGLWYDD a gwneud eilun ar siâp tarw ifanc. Roeddech chi wedi troi i ffwrdd mor sydyn oddi wrth beth oedd e'n ei ofyn gynnoch chi!

17. Felly dyma fi'n codi'r ddwy lechen, a'u taflu nhw ar lawr, a dyma nhw'n torri'n ddarnau yno o flaen eich llygaid chi.

18. “Yna dyma fi'n mynd ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod arall. Wnes i fwyta nac yfed dim byd o achos eich pechod chi, yn gwneud peth mor ofnadwy i bryfocio'r ARGLWYDD.

19. Roedd gen i wir ofn fod yr ARGLWYDD wedi digio mor ofnadwy hefo chi y byddai e'n eich dinistrio chi'n llwyr. Ond dyma fe'n gwrando arna i unwaith eto.

20. “Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio gydag Aaron hefyd, ac yn mynd i'w ladd, ond dyma fi'n gweddïo drosto fe hefyd.

21. Yna dyma fi'n cymryd y tarw ifanc roeddech chi wedi pechu drwy ei wneud, ei doddi yn y tân ac yna ei falu nes ei fod yn fân fel llwch, cyn taflu'r llwch i'r nant oedd yn rhedeg i lawr y mynydd.

22. “A dyma chi'n digio'r ARGLWYDD eto, yn Tabera, Massa a Cibroth-hattaäfa.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 9