Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 8:7-20 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy'n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau.

8. Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd.

9. Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i'w cloddio o'r tir – haearn a chopr.

10. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a byddwch yn moli'r ARGLWYDD eich Duw am roi gwlad mor dda i chi.

11. “Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ARGLWYDD, ac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw.

12. Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw,

13. mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur – yn wir, digon o bopeth –

14. gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.

15. Daeth yr ARGLWYDD a chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych lle doedd dim dŵr, ond dyma'r ARGLWYDD yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed.

16. Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd.

17. Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’

18. Cofiwch mai'r ARGLWYDD eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi. Os cofiwch chi hynny, bydd e'n cadarnhau yr ymrwymiad wnaeth e ar lw i'ch hynafiaid chi. Mae wedi gwneud hynny hyd heddiw.

19. “Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi – os gwnewch chi anghofio'r ARGLWYDD, a mynd ar ôl duwiau eraill i'w haddoli nhw, bydd e'n eich dinistrio chi!

20. Bydd yr un peth yn digwydd i chi ag sy'n mynd i ddigwydd i'r gwledydd dych chi ar fin ymladd yn eu herbyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 8