4. Am bedwar deg o flynyddoedd wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo.
5. “Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni yn disgyblu eu plentyn.
6. Felly gwnewch beth mae e'n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a'i barchu.
7. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy'n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau.
8. Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd.
9. Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i'w cloddio o'r tir – haearn a chopr.
10. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a byddwch yn moli'r ARGLWYDD eich Duw am roi gwlad mor dda i chi.
11. “Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ARGLWYDD, ac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
12. Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw,
13. mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur – yn wir, digon o bopeth –
14. gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
15. Daeth yr ARGLWYDD a chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych lle doedd dim dŵr, ond dyma'r ARGLWYDD yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed.
16. Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd.