Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 8:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Rhaid i chi gadw'r gorchmynion yma dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Os gwnewch chi hynny, cewch fyw, bydd eich niferoedd chi'n tyfu, a chewch fynd i mewn i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi.

2. “Peidiwch anghofio'r blynyddoedd dych chi wedi eu treulio yn yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn eich dysgu chi a'ch profi chi, i weld os oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e'n ddweud.

3. Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda'r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn!) Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.

4. Am bedwar deg o flynyddoedd wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo.

5. “Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni yn disgyblu eu plentyn.

6. Felly gwnewch beth mae e'n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a'i barchu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 8