Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:4-14 beibl.net 2015 (BNET)

4. Siaradodd Duw gyda ni wyneb yn wyneb, o ganol y tân ar y mynydd.

5. (Fi oedd yn sefyll yn y canol rhyngoch chi â'r ARGLWYDD, am fod gynnoch chi ofn, a ddim eisiau mynd yn agos ar y mynydd. Fi oedd yn dweud wrthoch chi beth oedd neges yr ARGLWYDD.) A dyma ddwedodd e:

6. “‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,lle roeddech chi'n gaethweision.

7. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.

8. Paid cerfio eilun i'w addoli –dim byd sy'n edrych fel unrhywaderyn, anifail na physgodyn.

9. Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw.Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i,ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plantam dair i bedair cenhedlaeth.

10. Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôl,am fil o genedlaethau,at y rhai sy'n fy ngharu iac yn gwneud beth dw i'n ddweud.

11. Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw.Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enwddianc rhag cael ei gosbi.

12. Cadw'r dydd Saboth yn sbesial,yn ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill,fel mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti.

13. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall,a gwneud popeth sydd angen ei wneud.

14. Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD.Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –ti na dy feibion a dy ferched,dy weision na dy forynion chwaith;dim hyd yn oed dy ychen a dy asyn,nac unrhyw anifail arall;nac unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.Mae'r gwas a'r forwyn i gael gorffwys fel ti dy hun.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5