Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:27-33 beibl.net 2015 (BNET)

27. Dos di i wrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac wedyn cei ddod yn ôl i ddweud wrthon ni. A byddwn ni'n gwneud popeth mae e'n ddweud.’

28. “Roedd yr ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n siarad hefo fi, a dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi clywed beth mae'r bobl wedi ei ddweud wrthot ti. Maen nhw'n iawn.

29. Piti na fydden nhw'n dangos yr un parch ata i bob amser, ac eisiau gwneud beth dw i'n ddweud. Byddai pethau'n mynd yn dda iddyn nhw wedyn ar hyd y cenedlaethau.

30. Dos i ddweud wrthyn nhw am fynd yn ôl i'w pebyll.

31. Ond aros di yma, i mi gael dweud wrthot ti beth ydy'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau dw i am i ti eu dysgu iddyn nhw. Wedyn byddan nhw'n gallu byw felly yn y wlad dw i'n ei rhoi iddyn nhw.’

32. “Felly, gwnewch yn union fel mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ddweud. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl.

33. Dych chi i fyw fel mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi gorchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi, ac i chi gael byw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5