Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:23-29 beibl.net 2015 (BNET)

23. “Yna pan glywsoch chi sŵn y llais yn dod o'r tywyllwch, a'r mynydd yn llosgi'n dân, dyma arweinwyr eich llwythau a'ch henuriaid yn dod ata i.

24. Dyma nhw'n dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi dangos ei ysblander rhyfeddol i ni, a dŷn ni wedi ei glywed e'n siarad o ganol y tân. Dŷn ni wedi gweld bod pobl ddim yn marw'n syth pan mae Duw yn siarad â nhw.

25. Ond mae gynnon ni ofn i'r tân ofnadwy yma ein llosgi ni. Does gynnon ni ddim eisiau marw. Os byddwn ni'n dal i glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw yn siarad gyda ni, byddwn ni'n siŵr o farw.

26. Oes yna unrhyw un erioed wedi clywed llais y Duw byw yn siarad o ganol y tân, fel dŷn ni wedi gwneud, ac wedi byw wedyn?

27. Dos di i wrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac wedyn cei ddod yn ôl i ddweud wrthon ni. A byddwn ni'n gwneud popeth mae e'n ddweud.’

28. “Roedd yr ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n siarad hefo fi, a dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi clywed beth mae'r bobl wedi ei ddweud wrthot ti. Maen nhw'n iawn.

29. Piti na fydden nhw'n dangos yr un parch ata i bob amser, ac eisiau gwneud beth dw i'n ddweud. Byddai pethau'n mynd yn dda iddyn nhw wedyn ar hyd y cenedlaethau.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5