Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:18-25 beibl.net 2015 (BNET)

18. Paid godinebu.

19. Paid dwyn.

20. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.

21. Paid chwennych gwraig rhywun arall.Paid chwennych ei dŷ na'i dir,na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,na dim byd sydd gan rywun arall.’

22. “Dwedodd yr ARGLWYDD hyn i gyd wrth y bobl o ganol y tân, y cwmwl a'r tywyllwch ar y mynydd. A dyna'r cwbl wnaeth e ddweud. A dyma fe'n ysgrifennu'r geiriau ar ddwy lechen garreg, a'u rhoi nhw i mi.”

23. “Yna pan glywsoch chi sŵn y llais yn dod o'r tywyllwch, a'r mynydd yn llosgi'n dân, dyma arweinwyr eich llwythau a'ch henuriaid yn dod ata i.

24. Dyma nhw'n dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi dangos ei ysblander rhyfeddol i ni, a dŷn ni wedi ei glywed e'n siarad o ganol y tân. Dŷn ni wedi gweld bod pobl ddim yn marw'n syth pan mae Duw yn siarad â nhw.

25. Ond mae gynnon ni ofn i'r tân ofnadwy yma ein llosgi ni. Does gynnon ni ddim eisiau marw. Os byddwn ni'n dal i glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw yn siarad gyda ni, byddwn ni'n siŵr o farw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5