Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 4:25-34 beibl.net 2015 (BNET)

25. Pan fyddwch chi wedi bod yn y wlad am amser hir, ac wedi cael plant ac wyrion ac wyresau, peidiwch gwneud drwg i'ch hunain drwy gerfio delw o ryw fath. A peidiwch gwneud pethau drwg eraill sy'n pryfocio'r ARGLWYDD eich Duw.

26. Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi – os gwnewch chi hynny byddwch chi'n cael eich taflu allan o'r tir yna dych chi ar fin croesi'r Afon Iorddonen i'w gymryd drosodd. Fyddwch chi ddim yn para'n hir yna, achos byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr!

27. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a dim ond criw bach ohonoch chi fydd ar ôl.

28. A byddwch chi'n addoli duwiau wedi eu gwneud gan bobl – delwau o bren a charreg sydd ddim yn gallu gweld, clywed, bwyta nac arogli!

29. “Ond os gwnewch chi droi at yr ARGLWYDD yno, a hynny o ddifrif – â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid – byddwch yn dod o hyd iddo.

30. Yng nghanol eich holl drybini, pan fydd y pethau yma'n digwydd rywbryd yn y dyfodol, os gwnewch chi droi yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw a bod yn ufudd iddo,

31. fydd e ddim yn eich siomi chi. Mae e'n Dduw trugarog. Fydd e ddim yn eich dinistrio chi, am ei fod yn gwrthod anghofio'r ymrwymiad hwnnw wnaeth e gyda'ch hynafiaid chi. Gwnaeth e addo ar lw iddyn nhw.

32. “Edrychwch yn ôl dros hanes, o'r dechrau cyntaf pan wnaeth Duw greu pobl ar y ddaear yma. Holwch am unrhyw le drwy'r byd i gyd. Oes unrhyw beth fel yma wedi digwydd o'r blaen? Oes unrhyw un wedi clywed si am y fath beth?

33. Oes unrhyw genedl arall wedi clywed llais Duw yn siarad â nhw o ganol y tân, fel gwnaethoch chi, ac wedi byw i adrodd yr hanes?

34. Neu oes duw arall wedi mentro cymryd pobl iddo'i hun o ganol gwlad arall, gan gosbi, cyflawni gwyrthiau rhyfeddol, ac ymladd drostyn nhw gyda'i nerth rhyfeddol, a'r holl bethau dychrynllyd eraill welsoch chi'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud drosoch chi yn yr Aifft?

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 4