Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:5-17 beibl.net 2015 (BNET)

5. Yr ARGLWYDD oedd brenin Israel onestpan ddaeth arweinwyr y bobla llwythau Israel at ei gilydd.

6. Boed i Reuben gael byw, nid marw,ond fydd ei bobl ddim yn niferus.”

7. Yna meddai am Jwda:“Gwranda, ARGLWYDD, ar lais Jwda,ac una fe gyda'i bobl.Rho nerth rhyfeddol iddo,a helpa fe i ymladd yn erbyn ei elynion.”

8. Yna meddai am Lefi:“I Lefi rhoddaist y Thwmim a'r Wrim,i'r gwas oedd wedi ei gysegru.Profaist e wrth Massa,a dadlau gydag e wrth Ffynnon Meriba.

9. Dwedodd wrth ei rieni, ‘Dw i erioed wedi'ch gweld’,wrth ei frodyr a'i chwiorydd, ‘Pwy ydych chi?’,ac wrth ei blant, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi,’am fod gwneud beth rwyt ti'n ddweud,ac amddiffyn dy ymrwymiad yn bwysicach ganddo.

10. Nhw sy'n dysgu dy ganllawiau i Jacob,a'th gyfarwyddiadau i Israel.Nhw sy'n cyflwyno arogldarth sy'n arogli'n hyfryd,ac offrymau cyflawn ar dy allor.

11. O ARGLWYDD, bendithia ei eiddo,a chael pleser o'r gwaith mae'n ei wneud.Torra goesau unrhyw un sy'n ymosod arno,a'r rhai sy'n ei gasáu,nes eu bod nhw'n methu sefyll.”

12. Yna meddai am Benjamin:“Bydd yr un sy'n annwyl gan yr ARGLWYDDyn byw yn saff wrth ei ymyl.Bydd Duw yn ei amddiffyn bob amser;bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.”

13. Yna meddai am Joseff:“Boed i'r ARGLWYDD fendithio ei dir,a rhoi cnydau da gyda gwlith o'r awyr,a'r dŵr sy'n ddwfn dan y ddaear;

14. cnydau wedi tyfu dan wenau'r haulac yn aeddfedu o fis i fis;

15. cnydau'n tyfu ar ben y mynyddoedd hynafol,a'r cynhaeaf sy'n aeddfedu ar y bryniau;

16. y cnydau gorau all y tir eu rhoi,a ffafr yr Un oedd yn y berth oedd ar dân.Bendith Duw ar ben Joseff –ar ben yr un oedd y blaenaf o'i frodyr.

17. Mae iddo anrhydedd fel y tarw cyntaf,ac mae ei gyrn fel rhai ychen gwyllt,i gornio'r bobloedd i ben draw'r byd –dyma ddegau o filoedd Effraim a miloedd Manasse.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33