Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:21-29 beibl.net 2015 (BNET)

21. Mae wedi dewis y rhan orau iddo'i hun –rhan un sy'n rheoli.Daeth gydag arweinwyr y bobl,yn ufudd i ofynion da yr ARGLWYDD,a'i ganllawiau i bobl Israel.”

22. Yna meddai am Dan:“Mae Dan fel llew ifanc;bydd yn llamu allan o Bashan.”

23. Yna meddai am Nafftali:“O Nafftali, sy'n gorlifo o ffafr,ac wedi dy fendithio gymaint gan yr ARGLWYDD,dos i gymryd dy dir i'r gorllewin a'r de.”

24. Yna meddai am Asher:“Mae Asher wedi ei fendithio fwy na'r lleill!Boed i'w frodyr ddangos ffafr ato,a boed iddo drochi ei draed mewn olew olewydd.

25. Bydd y bariau ar dy giatiau o haearn a phres;byddi'n saff tra byddi byw.

26. Does neb tebyg i dy Dduw, o Israel onest;mae'n hedfan drwy'r awyr i dy helpu,a'r cymylau yn gerbyd i'w fawrhydi.

27. Mae'r Duw sydd o'r dechrau'n le diogel,a'i freichiau tragwyddol oddi tanat.Mae wedi gyrru dy elynion ar ffo,ac wedi gorchymyn eu dinistrio.

28. Mae Israel yn cael byw yn saff,ac mae pobl Jacob yn ddiogel,mewn gwlad o ŷd a grawnwin;lle mae gwlith yn disgyn o'r awyr.

29. Rwyt wedi dy fendithio, Israel!Oes pobloedd eraill tebyg i ti? –Pobl sydd wedi'ch achub gan yr ARGLWYDD,Fe ydy'r darian sy'n eich amddiffyn,a'r cleddyf gwych sy'n ymladd ar eich ran.Boed i'ch gelynion grynu o'ch blaen,a chithau'n sathru ar eu cefnau!”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33