Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:15-22 beibl.net 2015 (BNET)

15. cnydau'n tyfu ar ben y mynyddoedd hynafol,a'r cynhaeaf sy'n aeddfedu ar y bryniau;

16. y cnydau gorau all y tir eu rhoi,a ffafr yr Un oedd yn y berth oedd ar dân.Bendith Duw ar ben Joseff –ar ben yr un oedd y blaenaf o'i frodyr.

17. Mae iddo anrhydedd fel y tarw cyntaf,ac mae ei gyrn fel rhai ychen gwyllt,i gornio'r bobloedd i ben draw'r byd –dyma ddegau o filoedd Effraim a miloedd Manasse.”

18. Yna meddai am Sabulon:“Bydd lawen, Sabulon, pan fyddi'n mynd allan,ac Issachar, pan fyddi yn dy bebyll.

19. Byddan nhw'n galw pobloedd at eu mynydd,ac yno'n cyflwyno aberthau iawn.Byddan nhw'n derbyn cyfoeth o'r moroedd,ac yn casglu trysorau o dywod y traeth.”

20. Yna meddai am Gad:“Bendith ar yr Un sy'n gwneud i Gad lwyddo!Bydd yn aros fel llew,yna'n rhwygo'r fraich a'r pen.

21. Mae wedi dewis y rhan orau iddo'i hun –rhan un sy'n rheoli.Daeth gydag arweinwyr y bobl,yn ufudd i ofynion da yr ARGLWYDD,a'i ganllawiau i bobl Israel.”

22. Yna meddai am Dan:“Mae Dan fel llew ifanc;bydd yn llamu allan o Bashan.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33