1. Dyma'r fendith wnaeth Moses, dyn Duw, ei chyhoeddi dros bobl Israel cyn iddo farw:
2. “Daeth yr ARGLWYDD o Fynydd Sinai;roedd fel y wawr yn torri o gyfeiriad Edom.Roedd yn disgleirio o Fynydd Paran,ac yn dod allan gyda deg mil o angylion,a mellt yn saethu o'i law dde.
3. Mae'n amlwg ei fod yn caru'r bobl,ac yn gofalu am y rhai sydd wedi eu cysegru iddo.Maen nhw'n gwrando ar ei eiriau,ac yn addoli wrth ei draed.
4. Rhoddodd Moses gyfraith i ni;rhodd sbesial i bobl Jacob.
5. Yr ARGLWYDD oedd brenin Israel onestpan ddaeth arweinwyr y bobla llwythau Israel at ei gilydd.
6. Boed i Reuben gael byw, nid marw,ond fydd ei bobl ddim yn niferus.”
7. Yna meddai am Jwda:“Gwranda, ARGLWYDD, ar lais Jwda,ac una fe gyda'i bobl.Rho nerth rhyfeddol iddo,a helpa fe i ymladd yn erbyn ei elynion.”