Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:9-20 beibl.net 2015 (BNET)

9. Ond cyfran yr ARGLWYDD ei hun oedd ei bobl;pobl Jacob oedd ei drysor sbesial.

10. Daeth o hyd iddyn nhw mewn tir anial;mewn anialwch gwag a gwyntog.Roedd yn eu cofleidio a'u dysgu,a'u hamddiffyn fel cannwyll ei lygad.

11. Fel eryr yn gwthio'i gywion o'r nyth,yna'n hofran a'u dal ar ei adenydd,dyma'r ARGLWYDD yn codi ei boblar ei adenydd e.

12. Yr ARGLWYDD ei hun oedd yn eu harwain,nid rhyw dduw estron oedd gyda nhw.

13. Gwnaeth iddyn nhw goncro'r wlad heb rwystr,a cawson nhw fwyta o gynnyrch y tir.Rhoddodd fêl iddyn nhw ei sugno o'r creigiau,olew olewydd o'r tir caregog,

14. caws colfran o'r gwartheg, a llaeth o'r geifr,gyda brasder ŵyn, hyrddod a geifr Bashan.Cefaist fwyta'r gwenith gorauac yfed y gwin gorau.

15. Ond dyma Israel onest yn pesgi, a dechrau strancio –magu bloneg a mynd yn dewach a thewach!Yna troi cefn ar y Duw a'i gwnaeth,a sarhau y Graig wnaeth ei hachub;

16. ei wneud yn eiddigeddus o'r duwiau paganaidd,a'i bryfocio gyda'i heilunod ffiaidd.

17. Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw –duwiau doedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw;y duwiau diweddaraf,duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.

18. Anwybyddu'r Graig wnaeth dy genhedlu,ac anghofio'r Duw ddaeth â ti i fod.

19. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a'u gwrthod,am fod ei feibion a'i ferched wedi ei wylltio.

20. Meddai, “Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw,a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw.Maen nhw'n genhedlaeth anonest,yn blant sydd mor anffyddlon.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32