Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:40-52 beibl.net 2015 (BNET)

40. Dw i'n addo ar fy llw,‘Mor sicr a'm bod i yn byw am byth,

41. Dw i'n mynd i hogi fy nghleddyf disglair,a gafael ynddo i gosbi;Dw i'n mynd i ddial ar y gelynion,a talu'n ôl i'r rhai sy'n fy nghasáu!

42. Bydd fy saethau wedi meddwi ar waed,a'm cleddyf yn darnio cnawd –gwaed y rhai wedi eu lladd a'r caethion,prif arweinwyr y gelyn!’”

43. Llawenhewch, genhedloedd, gyda'i bobl;bydd yn dial am ladd ei weision.Mae'n mynd i ddial ar y gelynion,a gwneud iawn am beth a wnaethoni'w dir ac i'w bobl.

44. Yna dyma Moses yn mynd gyda Josua fab Nwn, ac yn adrodd geiriau'r gân i'r bobl i gyd.

45-46. Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud.

47. Dim geiriau gwag ydyn nhw – dyma'ch bywyd chi! Os cadwch chi nhw, byddwch chi'n byw yn hir yn y tir dych chi ar fin croesi'r Iorddonen i'w gymryd drosodd.”

48. Yna, ar yr un diwrnod, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,

49. “Dos i fyny bryniau Afarîm, a dringo i ben Mynydd Nebo (sydd ar dir Moab, gyferbyn â Jericho), i ti gael gweld Canaan, y wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel.

50. Byddi di'n marw ar ben y mynydd, fel buodd dy frawd Aaron farw ar ben mynydd Hor.

51. Roedd y ddau ohonoch chi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i pan oeddech chi gyda phobl Israel wrth Ffynnon Meriba yn Cadesh yn Anialwch Sin. Wnaethoch chi ddim dangos parch ata i o flaen pobl Israel.

52. Felly byddi'n cael gweld y tir o dy flaen di, ond fyddi di ddim yn cael mynd i mewn i'r wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32