Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:33-42 beibl.net 2015 (BNET)

33. Mae'r gwin fel gwenwyn nadroedd,gwenwyn marwol gwiberod.

34. “Onid ydw i'n cofio'r cwbl?” meddai'r ARGLWYDD,“Onid ydw i wedi ei gadw dan glo yn fy stordai?

35. Fi sy'n dial, ac yn talu nôl.Byddan nhw'n llithro –mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw,a'r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!”

36. Bydd yr ARGLWYDD yn rhyddhau ei bobl,ac yn tosturio wrth ei weision,wrth weld eu bod nhw heb nerth,a bod neb ar ôl, yn gaeth nac yn rhydd.

37. Bydd e'n gofyn, “Ble mae eu duwiau nhw nawr?Ble mae'r graig lle roedden nhw'n ceisio cysgodi

38. – y duwiau wnaeth fwyta eu haberthau gorau,ac yfed gwin yr offrymau o ddiod?Gadewch iddyn nhw eich helpu chi;gadewch iddyn nhw edrych ar eich holau chi!

39. Dw i eisiau i chi ddeall mai fi, ie fi ydy e!Does dim duw arall ar wahân i mi.Mae gen i awdurdod i ladd ac i roi bywyd,awdurdod i anafu ac i iacháua does neb yn gallu fy stopio!

40. Dw i'n addo ar fy llw,‘Mor sicr a'm bod i yn byw am byth,

41. Dw i'n mynd i hogi fy nghleddyf disglair,a gafael ynddo i gosbi;Dw i'n mynd i ddial ar y gelynion,a talu'n ôl i'r rhai sy'n fy nghasáu!

42. Bydd fy saethau wedi meddwi ar waed,a'm cleddyf yn darnio cnawd –gwaed y rhai wedi eu lladd a'r caethion,prif arweinwyr y gelyn!’”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32