Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:26-36 beibl.net 2015 (BNET)

26. Gallwn fod wedi dweud, ‘Dw i am eu torri nhw'n ddarnau,a gwneud i bobl anghofio eu bod nhw wedi bodoli.

27. Ond roedd gen i ofn ymateb y gelynion;y bydden nhw'n camddeall ac yn dweud,“Ni sydd wedi ennill! Ni sydd wedi gwneud hyn!Dydy'r ARGLWYDD wedi gwneud dim!”’

28. Does gan bobl Israel ddim sens!Dŷn nhw'n deall dim!

29. Petaen nhw'n ddoeth bydden nhw'n deall,ac yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn y diwedd.”

30. Sut mae un gelyn yn gallu gwneud i fil o Israel ffoi,a dau yn gyrru deg mil ar ffo,oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu nhw,a'r ARGLWYDD wedi gadael iddyn nhw fynd?

31. Dydy ‛craig‛ ein gelynion ddim fel ein Craig ni –mae'r gelynion eu hunain yn cydnabod hynny!

32. Mae eu gwreiddiau'n mynd yn ôl i Sodom,a'u gwinwydden y tyfu ar gaeau teras Gomorra.Mae eu grawnwin yn llawn gwenwyn,a'u sypiau o ffrwyth yn chwerw.

33. Mae'r gwin fel gwenwyn nadroedd,gwenwyn marwol gwiberod.

34. “Onid ydw i'n cofio'r cwbl?” meddai'r ARGLWYDD,“Onid ydw i wedi ei gadw dan glo yn fy stordai?

35. Fi sy'n dial, ac yn talu nôl.Byddan nhw'n llithro –mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw,a'r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!”

36. Bydd yr ARGLWYDD yn rhyddhau ei bobl,ac yn tosturio wrth ei weision,wrth weld eu bod nhw heb nerth,a bod neb ar ôl, yn gaeth nac yn rhydd.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32