Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:19-31 beibl.net 2015 (BNET)

19. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a'u gwrthod,am fod ei feibion a'i ferched wedi ei wylltio.

20. Meddai, “Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw,a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw.Maen nhw'n genhedlaeth anonest,yn blant sydd mor anffyddlon.

21. Maen nhw wedi fy ngwneud i'n eiddigeddus gyda'i duwiau ffals,a'm digio gyda'u delwau diwerth.Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl,a'ch gwneud yn ddig trwy fendithio pobl sy'n deall dim.

22. Mae tân wedi ei gynnau – dw i mor ddig!Bydd yn llosgi i ddyfnder y ddaear.Bydd yn difa'r tir a'i gynnyrch,ac yn llosgi hyd sylfaeni'r mynyddoedd.

23. Bydd trychinebau di-baid yn eu taro;bydda i'n defnyddio fy saethau i gyd.

24. Byddan nhw'n marw o newyn,yn cael eu dinistrio gan haint,a brathiadau chwerw anifeiliaid gwylltiona nadroedd gwenwynig.

25. Bydd cleddyf yn lladd pobl y tu allan,a phawb yn cuddio yn eu dychryn y tu mewn –dynion a merched ifanc,plant bach a henoed.

26. Gallwn fod wedi dweud, ‘Dw i am eu torri nhw'n ddarnau,a gwneud i bobl anghofio eu bod nhw wedi bodoli.

27. Ond roedd gen i ofn ymateb y gelynion;y bydden nhw'n camddeall ac yn dweud,“Ni sydd wedi ennill! Ni sydd wedi gwneud hyn!Dydy'r ARGLWYDD wedi gwneud dim!”’

28. Does gan bobl Israel ddim sens!Dŷn nhw'n deall dim!

29. Petaen nhw'n ddoeth bydden nhw'n deall,ac yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn y diwedd.”

30. Sut mae un gelyn yn gallu gwneud i fil o Israel ffoi,a dau yn gyrru deg mil ar ffo,oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu nhw,a'r ARGLWYDD wedi gadael iddyn nhw fynd?

31. Dydy ‛craig‛ ein gelynion ddim fel ein Craig ni –mae'r gelynion eu hunain yn cydnabod hynny!

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32