Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Nefoedd a daear,gwrandwch beth dw i'n ddweud!

2. Bydd beth dw i'n ddweud fel cawod o law,a'm dysgeidiaeth fel diferion o wlith;bydd fel glaw yn disgyn ar borfa,neu law mân ar laswellt.

3. Wrth i mi gyhoeddi enw'r ARGLWYDD,dwedwch mor fawr yw ein Duw!

4. Mae e fel craig, a'i waith yn berffaith;mae bob amser yn gwneud beth sy'n iawn.Bob amser yn deg ac yn onest –yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.

5. Ond mae ei bobl wedi bod yn anffyddlon,ac heb ymddwyn fel dylai ei blant – a dyna'r drwg.Maen nhw'n genhedlaeth anonest, sy'n twyllo.

6. Ai dyma sut ydych chi'n talu'n ôl i'r ARGLWYDD?– dych chi'n bobl mor ffôl!Onid fe ydy'ch tad chi, wnaeth eich creu chi?Fe sydd wedi'ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi!

7. Cofiwch y dyddiau a fu;meddyliwch beth ddigwyddodd yn y gorffennol:Gofynnwch i'ch rhieni a'r genhedlaeth hŷn –byddan nhw'n gallu dweud wrthoch chi.

8. Pan roddodd y Goruchaf dir i'r cenhedloedd,a rhannu'r ddynoliaeth yn grwpiau,gosododd ffiniau i'r gwahanol bobloedda rhoi angel i ofalu am bob un.

9. Ond cyfran yr ARGLWYDD ei hun oedd ei bobl;pobl Jacob oedd ei drysor sbesial.

10. Daeth o hyd iddyn nhw mewn tir anial;mewn anialwch gwag a gwyntog.Roedd yn eu cofleidio a'u dysgu,a'u hamddiffyn fel cannwyll ei lygad.

11. Fel eryr yn gwthio'i gywion o'r nyth,yna'n hofran a'u dal ar ei adenydd,dyma'r ARGLWYDD yn codi ei boblar ei adenydd e.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32