Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:3-15 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd drosodd o'ch blaen chi. Bydd e'n dinistrio'r cenhedloedd ac yn cymryd eu tir oddi arnyn nhw. Mae e wedi dweud mai Josua fydd yn eich arwain chi.

4. Bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio nhw a'u gwlad, fel y gwnaeth e i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid.

5. Bydd e'n rhoi'r gallu i chi eu concro nhw, ond rhaid i chi wedyn wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn i chi.

6. Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn, a peidiwch panicio. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi. Fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi.”

7. Yna dyma Moses yn galw Josua ato o flaen pobl Israel, a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr! Ti'n mynd gyda'r bobl yma i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'w hynafiaid nhw. Ti fydd yn eu galluogi nhw i gymryd y tir.

8. Ond mae'r ARGLWYDD ei hun yn mynd o'ch blaen chi. Bydd e gyda chi; fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.”

9. Yna dyma Moses yn ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma, a'u rhoi nhw i'r offeiriaid o lwyth Lefi, sy'n cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i arweinwyr Israel i gyd.

10. A dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw, “Pob saith mlynedd, ar Ŵyl y Pebyll, pan mae dyledion yn cael eu canslo,

11. a pobl Israel i gyd yn dod o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis, rhaid i chi ddarllen y cyfarwyddiadau yma iddyn nhw.

12. Galwch y bobl at ei gilydd – dynion, merched a phlant, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich pentrefi chi – iddyn nhw eu clywed, dysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw, a gwneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud.

13. Wedyn bydd eu disgynyddion, oedd ddim yn gwybod y gyfraith, yn cael clywed am yr ARGLWYDD eich Duw, a dysgu ei barchu, tra byddwch chi'n byw yn y wlad dych chi'n croesi dros yr afon Iorddonen i'w meddiannu.”

14. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir. Galw am Josua, a dos gydag e i sefyll ym mhabell presenoldeb Duw, er mwyn i mi ei gomisiynu e.” Felly dyma Moses a Josua yn gwneud hynny.

15. A dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddyn nhw mewn colofn o niwl uwch ben drws y babell.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31