Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:17-30 beibl.net 2015 (BNET)

17. Bydda i'n digio gyda nhw, ac yn troi cefn arnyn nhw, nes byddan nhw wedi eu dinistrio. Bydd lot o drychinebau ac helyntion yn dod arnyn nhw, a byddan nhw'n dweud, ‘Mae'r pethau ofnadwy yma wedi digwydd i ni am fod ein Duw wedi ein gadael ni.’

18. Ond fydda i'n sicr ddim yn eu helpu nhw, am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg drwy droi i addoli duwiau eraill.

19. Felly ysgrifenna eiriau'r gân yma i lawr, a dysga hi i bobl Israel ar y cof. Bydd y gân yma'n dystiolaeth gen i yn erbyn pobl Israel.

20. “Ar ôl i mi fynd â nhw i'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddan nhw ar ben eu digon. Ond yna byddan nhw'n troi i addoli duwiau eraill, yn dangos dirmyg ata i ac yn torri amodau'r ymrwymiad wnes i.

21. Wedyn pan fydd y trychinebau a'r helyntion yn dod arnyn nhw bydd y gân yma yn dystiolaeth yn eu herbyn nhw (Bydd eu disgynyddion yn dal i gofio'r gân.) Dw i'n gwybod yn iawn beth sydd ar eu meddyliau nhw, hyd yn oed cyn i mi fynd â nhw i mewn i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw.”

22. Felly dyma Moses yn ysgrifennu'r gân i lawr, ac yn ei dysgu hi i bobl Israel.

23. A dyma'r ARGLWYDD yn comisiynu Josua fab Nwn, “Bydd yn gryf a dewr. Ti sy'n mynd i arwain pobl Israel i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw. Ond bydda i gyda ti.”

24. Pan oedd Moses wedi gorffen ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma i gyd mewn sgrôl,

25. dyma fe'n rhoi'r gorchymyn yma i'r dynion o lwyth Lefi oedd yn cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD:

26. “Cymerwch sgrôl y Gyfraith, a'i gosod hi wrth ymyl arch ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw. Bydd yna yn dystiolaeth yn eich erbyn chi.

27. Dych chi'n bobl benstiff. Dych chi wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yr holl amser dw i wedi bod gyda chi, felly sut fyddwch chi ar ôl i mi farw?

28. Casglwch arweinwyr y llwythau, a'r swyddogion at ei gilydd, i mi ddarllen y cwbl iddyn nhw, a bydda i'n galw y nefoedd a'r ddaear i dystio eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw i fod i'w wneud.

29. Dw i'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Ar ôl i mi farw byddwch chi'n sbwylio popeth drwy droi cefn ar y ffordd o fyw dw i wedi ei dysgu i chi. Bydd trychineb yn dod arnoch chi yn y dyfodol o ganlyniad i'r holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud yn pryfocio'r ARGLWYDD i ddigio gyda chi.”

30. Yna dyma Moses yn adrodd geiriau'r gân i bobl Israel i gyd, o'i dechrau i'w diwedd:

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31